Tanwydd, biliau a nwyddau tai

The Hub logo | Logo yr Hyb

Gall biliau cyfleustodau fel nwy, trydan a dŵr gymryd rhan fawr o’ch incwm.

Mae yna ffyrdd a restrir isod i’ch helpu i leihau eich biliau, ond os oes angen help arnoch chi, cysylltwch â ni neu galwch draw i Hyb am fwy o wybodaeth.

Budd-daliadau a Grantiau ar gyfer Nwy a Thrydan

Taliad o £25 am bob cyfnod 7 diwrnod rhwng 1 Tachwedd 2024 a 31 Mawrth 2025 pan fo’r tymheredd yn is na 0 gradd Celsius. Mae taliadau’n cael eu gwneud yn awtomatig i gyfrifon banc.

I fod yn gymwys mae’n rhaid i chi fod yn derbyn budd-dal prawf modd yn ogystal ag amodau eraill.

www.gov.uk/taliad-tywydd-oer/cymhwysedd am fanylion llawn.

Taliad untro i’ch cyfrif banc i helpu gyda chost biliau tanwydd. Os ydych chi’n gwpl, dim ond un taliad sy’n cael ei wneud.

Mae’r rhan fwyaf o bobl gymwys yn cael eu talu ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr. Efallai y cewch eich talu’n hwyrach os ydych yn aros am benderfyniad ar fudd-dal arall, er enghraifft Credyd Pensiwn. Darganfyddwch beth i’w wneud os nad ydych wedi cael eich talu.

Gostyngiad Cartrefi Cynnes 2024

Mae Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn ostyngiad untro o £150, wedi’i dynnu oddi ar eich bil trydan. Mae hyn yn awtomatig – nid oes rhaid i chi wneud cais.  Os ydych ar fesurydd rhagdalu, bydd eich cyflenwr yn dweud wrthych sut i gael y gostyngiad os ydych yn gymwys.

Mae’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes ar gyfer gaeaf 2024-2025 wedi dod i ben. Bydd yn ailagor ym mis Hydref 2025.

Ewch i gael gwybod beth i’w wneud os oes gennych chi hawl i gael y gostyngiad ond nad ydych chi wedi’i gael eto.

Os ydych mewn dyled gyda biliau tanwydd, efallai y gallwch ad-dalu’r ddyled hon trwy gael swm sefydlog a gymerwyd yn uniongyrchol o’ch budd-daliadau, yn hytrach na gosod mesurydd rhagdalu.

Dylech siarad â’r Ganolfan Waith neu’r Gwasanaeth Pensiwn a fydd yn cysylltu â’ch cyflenwr ynni. Gallwch ofyn hefyd am dalu bilau parhaus yn uniongyrchol o’ch budd-daliadau.

Helpu i wneud cartrefi'n fwy ynni-effeithlon a lleihau biliau

Yn darparu cyngor diduedd am ddim i sicrhau eich bod ar y tariff ynni a dŵr gorau, gostwng eich ôl troed carbon, gosod technoleg carbon isel a gwirio hawl budd-daliadau.

Gallai cwsmeriaid fod yn gymwys i gael gwelliannau ynni-effeithlonrwydd cartref megis:

  • Inswleiddio
  • Pwmp gwres
  • Paneli solar

www.llyw.cymru/cewch-welliannau-effeithlonrwydd-ynni-ir-cartref-am-ddim-gan-nyth

Mae’r gwelliannau ynni-effeithlon sydd ar gael trwy’r cynllun hwn yn cynnwys:

  • Insiwleiddio Waliau Ceudod
  • Insiwleiddio’r Atig
  • Inswleiddio dan y Llawr

Mae gan bob cynnyrch ei feini prawf ei hun, gan gynnwys os ydych chi’n berchennog cartref neu’n denant, yn ogystal â buddion ac incwm cymwys. Mae hefyd yn dibynnu ar y math o eiddo rydych chi’n byw ynddo.

www.eonnext.com/grants-and-schemes            0333 202 4422

Cyngor Ynni Annibynnol

Mae NEA yn darparu cyngor ar ynni a chymorth gyda biliau a dyledion. Mae’n gallu helpu i ddod o hyd i dariffau rhatach a chael awgrymiadau arbed ynni.

www.nea.org.uk/    0800 304 7159

Y rheoleiddiwr ynni sydd hefyd yn darparu cymorth a gwybodaeth. Ceir gwybodaeth hefyd am wneud cwynion am eich cwmni ynni.

www.ofgem.gov.uk/get-help-if-you-cannot-afford-your-energy-bills

Dŵr Cymru

Os ydych ar incwm isel, os oes teulu mawr gennych neu os oes anableddau neu gyflyrau iechyd gennych sy’n golygu eich bod yn defnyddio mwy o ddŵr, efallai y byddwch yn gymwys i gael  bil dŵr is.

Os ydych mewn dyled ddifrifol i Dŵr Cymru, gallwn eich helpu i wneud cais i’w cronfa cymorth i gwsmeriaid er mwyn helpu i leihau’r hyn sy’n ddyledus gennych os na allwch wneud hyn eich hun.

Os oes gennych fabi, salwch sydd angen dŵr, anawsterau golwg neu glyw, neu rydych yn oedrannus neu’n anabl, gallwch gael cymorth ychwanegol. Mae Cofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth Dŵr Cymru yn golygu eich bod yn cael help gyda:

  • Cyflenwad dŵr arall os nad oes cyflenwad dŵr arferol gennych
  • Ffyrdd eraill o gael gwybodaeth
  • Tawelwch meddwl yn erbyn galwyr ffug

Nwyddau Cartref

Grant i’ch helpu chi, neu rywun yr ydych yn rhoi gofal iddo, i fyw’n annibynnol yn ei gartref neu eiddo yr ydych chi neu’r unigolyn yn symud iddo.

Beth y gallwch ddefnyddio’r grant ar ei gyfer

Bydd y grant yn darparu:

  • oergell, peiriant golchi a ‘nwyddau gwyn’ eraill
  • dodrefn i’r cartref megis gwelyau, soffas a chadeiriau

Gallwch ymgeisio trwy bartner cymeradwy. Cysylltwch â ni a byddwn yn gwirio a ydych yn gymwys, a’ch helpu i ymgeisio.

Gallant eich helpu i:

  • Dalu dyledion nwy ac ynni a dyledion cartref eraill e.e. ôl-ddyledion rhent, dyledion y dreth gyngor
  • prynu eitemau hanfodol e.e. peiriannau golchi a choginio.
  • cynnig mathau eraill o gymorth ariannol megis ynghylch blaendaliadau a chostau angladd

Dylech wirio a yw’ch cyflenwr ynni yn cynnal cynllun. Os ydyw, gallwch wneud cais ar-lein, neu gallwn gyfeirio cwsmeriaid at ein partneriaid am help i lenwi’r ffurflen.

Os nad yw’ch cyflenwr yn rhedeg cynllun, efallai y gallwch wneud cais i British Gas Energy Trust.

Llinell Gynghori ar Arian 02920 871 071

Cyngor ar arbed ynni

  • Gall newid 1 bath bob wythnos am gawod 4 munud arbed hyd at £11 i chi y flwyddyn.
  • Gall golchi eich dillad unwaith yn llai bob wythnos, llenwi eich peiriant golchi dillad bob tro (gan osgoi ei orlwytho) a golchi ar 30⁰C arbed hyd at £28 i chi y flwyddyn (cofiwch y gallai fod angen tymheredd uwch arnoch i olchi dillad brwnt).
  • Gall gwefru eich dyfeisiau pan fydd eu batri’n agos at 0% a’u datgysylltu ar ôl cyrraedd 100% arbed hyd at £60 i chi y flwyddyn.
  • Gall berwi dim ond y dŵr sydd ei angen arnoch / defnyddio tegell llai o faint arbed hyd at £8 i chi y flwyddyn.
  • Gall diffodd y golau pan nad ydych yn yr ystafell, ni waeth am ba hyd, arbed hyd at £20 i chi y flwyddyn.
  • Gall diffodd dyfeisiau nad ydych yn eu defnyddio wrth y wal a pheidio â’u gadael yn y modd gorffwys arbed hyd at £55 i chi y flwyddyn.
  • Dylech droi’r gwres ymlaen dim ond pan fydd ei angen arnoch. Mae’n well troi’r gwres ymlaen a’i ddiffodd yn gyson na’i fod ymlaen o hyd.
  • Defnyddiwch thermostatau unigol ar gyfer pob rheiddiadur yn ogystal â’r prif thermostat ar gyfer y cartref cyfan. Gall sicrhau bod y thermostat ar reiddiaduron yr ystafelloedd nad ydych yn eu defnyddio mor aml, fel y cyntedd ac ystafelloedd gwely, wedi’u gosod ar dymheredd is, fydd yn golygu na fyddant yn parhau i wresogi ar ôl cyrraedd y tymheredd hwn, arbed hyd at £85 i chi y flwyddyn.
  • Mae symud dodrefn i ffwrdd o reiddiaduron yn caniatáu i’r gwres symud o amgylch yr ystafell yn fwy effeithlon.
  • Trowch y gwres ar flaen boeler cyfunol lawr i 55⁰, sef y gwres derbyniol cyfartalog. Po boethaf yw tymheredd y boeler, y mwyaf o ynni mae’n ei ddefnyddio.