Sgamiau, Twyll a Seiberdroseddau
Twyll yw pan ddefnyddir triciau i ennill mantais anonest, sy’n aml yn ariannol, dros berson arall. Seiberdroseddu yw unrhyw weithred droseddol sy’n ymwneud â chyfrifiaduron a rhwydweithiau.
Mae troseddwyr wedi dod yn fwyfwy dyfeisgar gyda ffyrdd o gael eu dwylo ar eich arian neu fanylion personol.
Mae Action Fraud yn sefydliad cenedlaethol sy’n bwynt cyswllt canolog ar gyfer adrodd am dwyll gan sicrhau bod eich adroddiadau’n cyrraedd y lle iawn. Maen nhw hefyd yn darparu gwybodaeth am wahanol fathau o dwyll a sut i’w adnabod.
Gallwch adrodd amheuaeth o dwyll drwy eu gwefan neu drwy ffonio 0300 123 2040. Os ydych wedi dioddef twyll, byddwch yn cael rhif cyfeirnod trosedd.
Awgrymiadau ar gyfer Adnabod Twyll o wefan Action Fraud
- Peidiwch â rhoi unrhyw wybodaeth bersonol (enw, cyfeiriad, manylion banc, e-bost neu rif ffôn) i sefydliadau neu bobl cyn gwirio eu cymwysterau.
- Gwnewch yn siŵr bod gan eich cyfrifiadur feddalwedd gwrth-firws gyfoes a wal dân wedi’u gosod. Sicrhewch fod eich porwr wedi’i osod i’r lefel uchaf o ddiogelwch a monitro i atal materion maleiswedd a throseddau cyfrifiadurol.
- E-byst gwe-rwydo – peidiwch â chlicio ar ddolenni mewn e-byst oni bai eich bod yn siŵr bod yr anfonwr yn ddilys. Gall troseddwyr wneud i negeseuon e-bost a thestun edrych fel pe baent wedi dod o ffynhonnell ddilys. Os oes amheuaeth, gwiriwch fanylion cyswllt y cwmni sy’n cyfateb i’r rhai sydd ar unrhyw lythyrau neu ohebiaeth sydd gennych ganddo.
- Dylid dinistrio ac yn ddelfrydol rhwygo derbynebau gyda manylion eich cerdyn arnynt a phost gyda’ch enw a’ch cyfeiriad arno.
- Os ydych chi’n derbyn biliau, anfonebau neu dderbynebau am bethau nad ydych wedi’u prynu, neu sefydliadau ariannol nad ydych yn delio â nhw fel arfer, neu’n cysylltu â chi am ddyledion sy’n ddyledus, cymerwch gamau. Efallai bydd eich hunaniaeth wedi ei dwyn.
- Byddwch yn wyliadwrus iawn o bost, galwadau ffôn neu e-byst sy’n cynnig bargeinion busnes i chi yn ddirybudd. Os yw cynnig yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae’n debygol ei fod. Cwestiynwch y cynnig bob amser.
Am fwy o fanylion ewch i wefan Action Fraud