Help gyda rheoli eich arian a’ch dyledion

Gall delio â materion ariannol beri dryswch, ond os nad ydych yn deall sut mae pethau fel credyd neu forgeisi’n gweithio, gallech fod ar eich colled yn ariannol neu’ch cael eich i ddyled.

Os ydych yn cael trafferth i reoli eich arian, gallwn gynnig help a chefnogaeth mewn nifer o feysydd fel cyllidebu, cynyddu incwm a rheoli dyledion.

Dod â’r newyddion diweddaraf i chi

Canolfan y Llyfrgell Ganolog a Chyngor Ariannol ar gau Dydd Sadwrn 7fed o Ragfyr 2024

Yn anffodus, oherwydd y rhybudd tywydd coch a gyhoeddwyd ar gyfer Caerdydd, bydd Canolfan y Llyfrgell Ganolog ar gau drwy’r dydd, heb unrhyw wasanaeth Cyngor Ariannol. Bydd ein Llinell Gynghori ar agor fel arfer ar 029 2087 1071.

Ydych chi’n berson sengl o Oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu’n gwpl o Oedran Pensiwn y Wladwriaeth? Gallech fod yn colli allan ar £££ bob wythnos.

Hyd yn oed os ydych chi’n berchen ar eich cartref eich hun neu fod gennych gynilion neu bensiwn preifat, gallech fod yn gymwys i gael incwm ychwanegol

Grant Hanfodion Ysgol 2024

Mae Grant Hanfodion Ysgol ar gael i helpu teuluoedd ar incwm isel i brynu gwisg ysgol, cit chwaraeon, gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, bagiau ysgol, deunydd ysgrifennu ac ati. Bydd y meini prawf cymhwysedd yn aros yr un fath. Bydd grantiau o £125 y disgybl neu £200 y disgybl i’r rhai sy’n dechrau blwyddyn 7 ar gael.​​​​​​​​​​​​