Help os oes plant gennych neu os ydych yn disgwyl

The Hub logo | Logo yr Hyb

Mae nifer o fanteision ar gael i deuluoedd, a’r rhai sy’n feichiog ar hyn o bryd.

Llinell Gynghori ar Arian 02920 871 071

Budd-dal plant

Mae Budd-dal plant yn daliad a all helpu tuag at gostau plant. Gallwch hawlio Budd-dal Plant ar gyfer pob plentyn yr ydych yn gyfrifol amdano (nid oes rhaid i chi fod yn rhiant i’r plentyn), does ots os ydych yn gweithio neu â chynilion.  Mae’r taliadau yn ddi-dreth cyn belled nad yw’r naill riant na’r llall yn ennill mwy na £60,000 y flwyddyn.

Lwfans Gwarcheidwad

Os ydych yn magu plentyn rhywun arall, gallech o bosibl hawlio Lwfans Gwarcheidwad, y gellir ei thalu’n ychwanegol â budd-dal plant. Am fanylion gweler yma

Credyd Cynhwysol

Gall Credyd Cynhwysol gynnwys swm i helpu gyda chostau gofalu am eich plentyn neu blant.

Mae cyfyngiadau ar faint o blant y gellir eu cynnwys yn eich cais.  Efallai y cewch chi arian ychwanegol wedi’i ychwanegu at eich credyd cynhwysol os yw eich plentyn dibynnol yn anabl.

Credydau Treth

Ni allwch wneud cais newydd am gredydau treth mwyach. Bydd pob hawliad yn dod i ben ar 31 Mawrth 2025. Gallwch addasu hawliadau sydd eisoes yn bodoli o hyd.

Grant Mamolaeth

Gallech gael taliad untro o £500 i helpu tuag at y gost o gael plentyn a’ch bod yn derbyn rhai budd-daliadau.

Prydau Ysgol Am Ddim

Mae Prydau am ddim ar gael i blant 5-16 oed yn ysgolion y wladwriaeth.

Grant Hanfodion Ysgol

Mae Grant Hanfodion Ysgol ar gael i helpu teuluoedd ar incwm isel i brynu gwisg ysgol, cit chwaraeon, gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, bagiau ysgol, deunydd ysgrifennu ac ati. Bydd grantiau o £125 y disgybl neu £200 y disgybl i’r rhai sy’n dechrau blwyddyn 7.

Grant Hanfodion Ysgol (Grant Datblygu Disgyblion yn Flaenorol) (cardiff.gov.uk)

Os oes angen help arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau gallwch gysylltu â ni.  ​​​029 2087 1071

Talebion Cychwyn Iach

Cynllun yw Cychwyn iIch i helpu mamau beichiog, rhieni newydd a’u plant i fwyta’n iach. Os ydych yn gymwys, gallwch gael fitaminau am ddim, a thaleb tuag at gostau llaeth, llysiau a ffrwythau. Gwneud cais am dalebau cychwyn iach.

Bwyd a Hwyl

Cynllun rhad ac am ddim yw hwn a gynhelir yn ystod gwyliau’r ysgol ac mae’n cynnwys gofal plant, gweithgareddau a phrydau bwyd i blant yn ystod y gwyliau yn eu hysgol eu hunain.  Cysylltwch â’ch ysgol i weld a yw’n cynnal y rhaglen.

Clybiau brecwast

Mae clybiau brecwast yn cynnig brecwast iach am ddim mewn rhai ysgolion.  Cysylltwch â’ch ysgol eich hun i weld a oes clwb brecwast am ddim ganddynt.

Costau Gofal Plant

Gall gofal plant fod yn ddrud, ond mae help gyda chostau ar gael, hyd yn oed os nad ydych chi’n derbyn budd-daliadau. Mae ’na ofal plant am ddim yng Nghymru hefyd.

Help gyda chostau

  • Trwy Gredyd Cynhwysol
  • Gofal Plant Di-dreth – does dim rhaid i chi fod yn derbyn budd-daliadau
  • Help wrth i chi astudio

Gofal Plant Am Ddim