Help ar Gofalwr di-dâl

The Hub logo | Logo yr Hyb

Ydych chi’n gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind? Os nad ydych yn cael eich talu i wneud hyn fel swydd, rydych yn “ofalwr di-dâl”.

  • Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn diffinio gofalwr fel “rhywun sy’n darparu gofal di-dâl i oedolyn neu blentyn anabl.”
  • Gall y person sy’n derbyn gofal fod yn aelod o’r teulu neu’n ffrind sydd, oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth, nad ydyn nhw’n gallu ymdopi heb ei gymorth.

Mae ystod o gymorth ar gael i’ch helpu.

Gall y Tîm Cyngor Ariannol wirio eich bod yn hawlio popeth y mae gennych hawl iddo.

Gall grantiau fod ar gael am amryw resymau gan gynnwys gweithgareddau lles i’r gofalwr, costau byw a chynlluniau untro.

  • Mae’r grantiau hyn fel arfer yn gyfyngedig o ran amser ac mae ganddynt gronfeydd cyfyngedig felly y cyntaf i’r felin yw hi, fel arfer.
  • Mae gan Wasanaeth Lles Ariannol Gofalwyr | TuVida fanylion am y cymorth presennol a sut i wneud cais amdano.

Mae Asesiadau Gofalwyr yn gofyn “Beth sy’n bwysig i chi?” ac mae’n darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth a allai eich cefnogi yn eich rôl ofalu.

Am ragor o wybodaeth ac i wybod sut i drefnu un, ewch i’n gwefan.

.

Ar gyfer rhywun dros 18 oed sy’n gofalu am rywun dros 18 oed:

Ar gyfer rhywun dros 18 oed sy’n gofalu am rywun dan 18 oed:

Ar gyfer gofalwr ifanc dan 18 oed:

  • Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd – Cydlynydd Gofalwyr Ifanc
  • E-bost: CyswlltCChD@caerdydd.gov.uk
  • Ffôn: Cyswllt uniongyrchol ar gyfer Cydlynydd Gofalwyr Ifanc – 02920 872046 / 07772 439767 neu ymholiadau cyffredinol yn ymwneud â Chyngor a Chymorth i Deuluoedd: 03000 133 133

Mae Cyngor Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o sesiynau hyfforddi a chyrsiau ar gyfer gofalwyr di-dâl. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Caerdydd Sy’n Dda i Bobl Hŷn

Os ydych yn gweithio yn ogystal â darparu gofal, efallai nad ydych yn ymwybodol o’ch hawliau cyfreithiol. Am ragor o wybodaeth, gweler Eich hawliau yn y gwaith | Carers UK.

Gall y niwed emosiynol a chorfforol o ofalu am rywun adael ei ôl. Mae cymorth ar gael, gan gynnwys:

Tîm Lles Cyngor Caerdydd

  • Mentora un-i-un i’ch helpu i reoli eich lles eich hun
  • Gweithgareddau sy’n seiliedig ar eich diddordebau a’ch anghenion personol
  • Cyfleoedd i wneud ffrindiau a chysylltiadau newydd
  • Dysgu am yr hyn sydd ar gael yn eich cymuned eich hun
  • Digwyddiadau a hyfforddiant
  • Gwirfoddoli yn y gymuned

Cysylltwch â’r tîm drwy e-bost timlles@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch 029 2087 1071 Opsiwn 3 (gadewch neges a byddant yn eich ffonio’n ôl)

Llinellau Cymorth Iechyd Meddwl

Mae amrywiaeth o sefydliadau cymorth wedi’u rhestru ar Wefan GIG Cymru

Pan fydd angen i’r person rydych yn gofalu amdano adael ei gartref, mae llawer o bethau i’w hystyried.

Ariannol

Bydd angen i chi feddwl sut y bydd y newid yn effeithio ar eich sefyllfa ariannol.

  • Talu am y llety – Mae’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol yn cwblhau Asesiad Ariannol i’r rheini sydd angen gofal, neu’n mynd i ofal preswyl.
  • Dylech roi gwybod i’r AGPh, y Gwasanaeth Pensiwn, banciau, meddygon teulu o’r newid
  • Bydd angen i bartneriaid sy’n cael eu gadael yn y prif gartref wneud hawliadau newydd am fudd-daliadau fel person sengl.

Gwneud Penderfyniadau

Os nad yw’r person rydych yn gofalu amdano yn gallu rheoli ei faterion mwyach, bydd angen i chi gymryd camau cyfreithiol i wneud hynny drosto. Mae gan Age UK ragor o fanylion, gan gynnwys y canlynol:

  • Pŵer atwrnai
  • Cynlluniau Gofal Uwch
  • Ewyllysiau Byw

Tai a’r Dreth Gyngor

Gwiriwch forgeisi a thenantiaethau i weld pwy sy’n atebol, gan y gallai fod newidiadau i’w gwneud.

  • Dylech roi gwybod i’r Dreth Gyngor– efallai y bydd gennych hawl i ostyngiadau ar eich bil

Cymorth Ariannol 

Mae ystod o gymorth ar gael, gan gynnwys:

  • Mae’r Lwfans Gofalwr yn daladwy am hyd at 8 wythnos ar ôl i’r person sy’n derbyn gofal farw. Gellir talu Elfen Gofalwr Credyd Cynhwysol am weddill y cyfnod asesu pan fu farw’r person am ddau gyfnod asesu pellach
  • Taliadau Cymorth Profedigaeth – os oedd y person sy’n derbyn gofal yn bartner, a’ch bod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • Os mai’r person a fu farw yw’r prif hawlydd budd-daliadau ar y cyd, bydd angen i’r person mewn profedigaeth wneud ei hawliadau ei hun h.y. CC, BT, GDG
  • Gall y Tîm Cyngor Ariannol gefnogi’r rheini sydd mewn profedigaeth i wneud hawliadau newydd
  • Rhaid rhoi gwybod i asiantaethau perthnasol o’r farwolaeth, fel nad yw hawliadau yn cael eu gordalu


Cymorth Profedigaeth

Mae Cruse yn cynnig cymorth, cyngor a hyfforddiant i unrhyw un sydd wedi cael profedigaeth. Mae cymorth ar gael i blant a phobl ifanc hefyd.

Os ydych wedi treulio amser yn gofalu am rywun, pan ddaw’r gofalu hwnnw i ben, efallai y byddwch yn ansicr beth i’w wneud. Mae cymorth ar gael, o les i hyfforddiant, i chwilio am waith.

Gweithgareddau

  • Mae gan hybiaucaerdydd.co.uk fanylion am weithgareddau a grwpiau yn eich ardal
  • Mae gan gwirfoddolicaerdydd.co.uk gyfleoedd gwirfoddoli
  • Os ydych chi am ddysgu sgiliau newydd neu ddilyn cwrs i’w fwynhau, ewch i www.adultlearningcardiff.co.uk/cy/
  • Os ydych chi’n ystyried mynd yn ôl i’r gwaith, gall ein Gwasanaeth i Mewn i Waith eich helpu gyda hyfforddiant, CVs a llawer mwy
Money Advice Line 02920 871 071