Cymorth i Bobl Hŷn

The Hub logo | Logo yr Hyb

Mae llawer o bobl hŷn nad ydyn nhw’n hawlio’r holl gymorth y mae ganddynt hawl iddo. Gallwn eich helpu i wneud hyn.

Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn daliad rheolaidd gan y Llywodraeth y gall y rhan fwyaf o bobl hawlio pan fyddant yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Mae’r oedran y gallwch hawlio eich pensiwn y wladwriaeth gan y Llywodraeth yn newid. Gwiriwch pryd y gallwch wneud hawliad a chael rhagor o wybodaeth.

Credyd Pensiwn – Mae hwn yn arian ychwanegol y gallwch ei hawlio os yw pensiwn y wladwriaeth ac incwm arall yn isel. Hyd yn oed os ydych chi’n berchen ar eich cartref eich hun neu fod gennych gynilion neu bensiwn preifat, gallech fod yn gymwys i gael incwm ychwanegol. Yn ogystal â rhoi arian ychwanegol i chi, gall hefyd roi mynediad i chi i gynlluniau eraill fel:

 

Weithiau gall hawliadau gal eu hôl-ddyddio 3 mis.

I weld a ydych yn gymwys,  Cyfrifiannell Credyd Pensiwn – GOV.UK (www.gov.uk)

Lwfans Gweini – Os oes gennych anabledd neu salwch hirdymor, dyma’r arian ychwanegol sydd ar gael i’ch helpu gyda’ch costau byw.

Gwasanaeth Byw’n Annibynnol – Gall y Gwasanaeth Byw’n Annibynnol eich helpu i aros yn ddiogel ac i barhau i fyw yn eich cartref eich hun.

Llinell Gynghori ar Arian 02920 871 071