
*Cywir ar 03/04/2025 – cadarnhewch y manylion cyn teithio
Asda
Gall plant dan 16 oed fwyta am £1 drwy’r dydd, bob dydd yng nghaffis Asda, heb angen unrhyw wariant gan oedolyn. |
Bydd plant yn cael darn o ffrwyth am ddim fel afal, gellygen neu fanana wrth brynu bargen bwyd poeth £1 i blant. Bwyd babis Ella am ddim i blant dan 18 mis oed gydag unrhyw bryniant.
Beefeater
Gall dau blentyn dan 16 oed gael brecwast am ddim wrth i un oedolyn dalu am fwyd. |
Bills
Gall hyd at 2 o blant fwyta am ddim trwy’r dydd o 7 Ebrill i ddydd Gwener 25 Ebrill (ac eithrio dydd Sadwrn a dydd Sul) pan fydd un oedolyn yn archebu unrhyw brif bryd.
Brains
Gall plant gael unrhyw brif bryd o fwydlen “Little Dragons” am £1 gyda phrif bryd oedolion pris llawn. Ar ddydd Mercher yn unig.
Brewdog
Gall plant gael pryd am ddim o’r un fwydlen pan fydd oedolyn yn bwyta. 5 Ebrill-21 Ebrill. Rhaid archebu ymlaen llaw.
Brewers Fayre
Gall hyd at ddau blentyn (dan 16 oed) fwyta brecwast diderfyn am ddim pan fydd oedolyn yn prynu unrhyw frecwast. |
Farmhouse Inns
Mynnwch daleb ar eu ap ar gyfer brecwast neu ginio rhost am ddim i blant dan 12 gyda phryd oedolion. Cynnig yn weithredol o 7 Ebrill i 25 Ebrill.
Future Inns
Gall plant dan 5 oed fwyta am ddim pan brynir unrhyw bryd i oedolyn. |
Hungry Horse
Gall plant fwyta am £1 pan fyddant yng nghwmni oedolyn sy’n talu am fwyd, ar ddydd Llun yn unig. |
Ikea
Prydau i blant o 95c |
Las Iguanas
Lawrlwythwch yr ap ac ymuno â ‘My Las Iguanas’ am brydau am ddim ar gyfer plant dan 12 oed. Byddant yn cael prif bryd, dau bryd ochr a phwdin gyda phob prif bryd a brynir gan oedolyn.
Morrisons
Gall plant fwyta am ddim drwy’r dydd bob dydd yng nghaffis Morrisons ledled y wlad, gyda phob pryd oedolyn dros £5
Pausa
Drwy’r dydd, bob dydd, am bob £4 sy’n cael ei wario gan oedolyn yn y caffi, gall plant fwynhau un prif bryd bach, dau fyrbryd a diod am ddim. |
Premier Inn
Os yw oedolyn yn prynu brecwast llawn neu fargen pryd, gall hyd at 2 blentyn dan 16 oed fwyta am ddim. |
Sizzling Pub
O hanner dydd yn ystod gwyliau’r ysgol (dydd Llun i ddydd Gwener), gall plant fwyta am £1 pan mae oedolyn yn prynu prif bryd.
TGI Fridays
Aelodau Stripes Rewards – Gall plant fwyta am ddim trwy’r dydd gyda phob prif bryd a brynir gan oedolyn. Lawrlwythwch yr ap, a chofrestru, i fanteisio ar y cynnig hwn. |
Travelodge
Prynwch frecwast “diderfyn” a gall hyd at ddau blentyn dan 15 oed fwyta am ddim. |
Yo!
Gall plant fwyta am ddim yn YO! Sushi yn ystod gwyliau’r Pasg, trwy’r dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener wrth fwyta gydag oedolyn sy’n talu (rhaid gwario o leiaf £10). |