Os oes gennych argyfwng sy’n golygu bod angen arian parod arnoch ar frys, efallai y cewch eich temtio i gael benthyciad gan unrhyw un a fydd yn rhoi arian i chi.
Gall y person sy’n cynnig arian parod cyflym fod yn siarc benthyg arian.
Maent yn aml yn ymddangos yn gyfeillgar a chymwynasgar, a gallent fod yn gymydog, landlord twyllodrus, cydweithiwr gwaith neu rywun o grŵp cymunedol. Mae siarcod benthyg arian yn aml yn targedu pobl sy’n agored i niwed.
Mae Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru yn cael ei weithredu gan Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru. Maent yn ymchwilio i siarcod benthyg arian yng Nghymru ac yn eu herlyn. Mae ganddynt swyddogion arbenigol sydd wedi’u hyfforddi i’ch cefnogi ac mae ganddynt ymchwilwyr i ymchwilio i achosion.
Nid y person sydd wedi cael benthyg arian yw’r troseddwr – y siarc benthyg arian yw hwnnw.
Am fwy o wybodaeth neu i roi gwybod am Siarc Benthyg Arian, ewch i wefan Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru.
Os oes angen arian arnoch ar frys, gall y Tîm Cyngor Ariannol wirio a ydych yn gymwys i gael grantiau amrywiol, yn ogystal â blaensymiau a benthyciadau budd-daliadau.