Bydd y cynllun hwn yn cefnogi’r rhai sy’n derbyn budd-daliadau gan gynnwys Gostyngiad y Dreth Cyngor, Credyd Cynhwysol a Chredydau Treth, a budd-daliadau anabledd fel Taliadau Annibyniaeth Bersonol (TAB), Lwfans Gweini (LG) a Lwfans Gofalwr.
Os nad ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau cymhwyso, ond bod rhywun arall yn eich aelwyd yn derbyn budd-daliadau anabledd, mae’n bosib y byddwch yn gymwys i dderbyn y taliad.
Bydd un taliad o £200 yn cael ei wneud i aelwydydd cymwys, gyda cheisiadau’n agor o 26 Medi 2022, a thaliadau’n cael eu gwneud o fis Hydref ymlaen. Mae’r taliad hwn ar ben unrhyw gymorth arall y gallech fod â hawl iddo.
https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Budd-daliadau-a-Grantiau/Effeithlonrwydd-ynni-a-thlodi-tanwydd/Cynllun-Cymorth-Tanwydd-y-Gaeaf/Pages/default.aspx. Rydyn ni hefyd yn cysylltu â phobl y credwn eu bod yn gymwys. Gallwch ffonio ein Llinell Gyngor ar 029 2087 1071 am fanylion neu gymorth i wneud cais.