Mae llawer o leoedd yn cynnig prydau bwyd am ddim neu am bris rhatach i blant dros yr haf. Edrychwch ar eu gwefannau am amodau cymhwysedd cyn ymweld.
Morrisons
Gwariwch £4.99 i gael pryd bwyd i blentyn am ddim o 3pm
Caffi Asda
Mae plant yn bwyta am £1 bob dydd heb fod angen oedolyn sy’n talu 25 Gorffennaf-4 Medi 2022.
Dunhelm
Un prif gwrs bach am ddim, dau fyrbryd ac un diod am bob £4 sy’n cael ei gwario gyda’r nos yng nghaffi’r siop.
Yo!
Mae plant yn bwyta am ddim rhwng 3pm a 5.30pm o ddydd Llun i ddydd Iau am bob £10 sy’n cael ei gwario ar fwyd.
Beefeater a Brewers Fayre
Brecwast am ddim i ddau blentyn o dan 16 oed gyda phob oedolyn sy’n talu.
Hungry Horse
Brecwast plentyn am ddim gyda brecwast oedolyn rhwng 9am a 12pm bob dydd
IKEA
Gallwch gael dau bryd bwyd i blant gyda ffrwyth, diod a jeli am £5 yn eu bwytai Swedaidd (gan ddibynnu ar argaeledd).
Bella Italia
Mae plant yn bwyta am £1 gyda phob pryd bwyd oedolyn rhwng 4 a 6pm ddydd Llun i ddydd Iau.
Dobbies
Mae’r plant yn bwyta am ddim gyda phrif bryd bwyd i oedolyn.
Table Table
Mae dau blentyn dan 16 oed yn cael brecwast am ddim gydag un oedolyn sy’n talu bob dydd.
Café Rouge
Mae plant yn bwyta am £1 gyda phryd o fwyd i oedolyn (ac eithrio dydd Sadwrn)