Oherwydd costau byw cynyddol, creodd Llywodraeth Cymru gynllun i helpu gyda threuliau. Mae’r un taliad o £150 fesul aelwyd, nid fesul person.
Y cymhwysedd ar gyfer y prif gynllun yw:
- Rydych yn atebol am y dreth gyngor ar eiddo band A-D yr oeddech yn byw ynddo fel eich prif gartref ar 15 Chwefror 2022
- Roeddech yn byw mewn eiddo band E ar 15 Chwefror 2022 oedd â gostyngiad band ar gyfer addasiad anabl.
- Roeddech chi’n byw mewn unrhyw fand ac yn derbyn Gostyngiad y Dreth Gyngor (GDG) ar 15 Chwefror 2022.
- Gweler yma am Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Budd-dal y Dreth Gyngor gynt) (cardiff.gov.uk) fanylion GDG a sut i wneud cais os nad ydych eisoes yn ei dderbyn gan y gallai leihau eich biliau treth gyngor yn y dyfodol.
Bydd rhagor o fanylion am ran ddewisol Cyngor Caerdydd o’r cynllun yn cael eu cyhoeddi’n fuan.
Taliadau
Os ydych yn un o’r grwpiau hyn ac yn talu’ch treth gyngor drwy ddebyd uniongyrchol, neu os cawsoch Daliad Cymorth Tanwydd Gaeaf, rydym wedi gallu gwneud taliadau’n awtomatig yn y rhan fwyaf o achosion.
Os na, rydym ar hyn o bryd yn anfon llythyrau yn eich gwahodd i wneud cais. Bydd angen rhif eich cyfrif treth gyngor arnoch a’r cod unigryw ar eich llythyr i wneud cais.
Help i wneud cais neu os oes gennych unrhyw ymholiadau:
- Os oes angen help arnoch i wneud cais, ewch i’ch Hyb lleol yma Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd | Cardiff Hubs : Cardiff Hubs (hybiaucaerdydd.co.uk), neu ffoniwch y Llinell Gyngor 029 2087 1071
- Os oes gennych ymholiadau am daliadau, neu os ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun, ffoniwch C2C ar 029 2087 2088
- Taliad cymorth costau byw (cardiff.gov.uk)