Fe wnaeth ceisiadau gau ar 28 Chwefror 2022. Mae ceisiadau a wnaed cyn y dyddiad hwn yn cael eu prosesu ar hyn o bryd. Os nad ydych wedi clywed gennym erbyn 31 Mawrth, ffoniwch 029 2087 1071
Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad o £100 gan eu cyngor lleol i’w roi tuag at eu biliau tanwydd gaeaf ar y grid o 13 Rhagfyr 2021.
Mae cynllun Llywodraeth Cymru yn agored i aelwydydd lle mae un person o oedran gweithio yn derbyn budd-daliadau lles sy’n ddibynnol ar brawf modd unrhyw bryd rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022.
Byddwn yn ysgrifennu at aelwydydd cymwys yr ydym yn ymwybodol ohonynt, i ofyn am wybodaeth sylfaenol i gefnogi’r hawliad a’r manylion i alluogi’r taliad.
Fel arall, os ydych yn gymwys i gael y cymorth hwn gallwch gyflwyno hawliad i ni o 13 Rhagfyr 2021.
Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf (cardiff.gov.uk)
Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf – Cais am Daliad (cardiff.gov.uk)
029 2087 1071