Bank notes and coins

Ydy’r Cap Budd-daliadau neu gyfyngiadau maint yn effeithio arnoch chi, neu ydych chi wedi dechrau gweithio’n ddiweddar?

Mae cymorth ychwanegol ar gael gyda chostau Tai neu Fudd-dal Tai i bobl sydd eisoes yn derbyn Credyd Cynhwysol, ac na allant fforddio talu’r gwahaniaeth rhwng eu budd-dal a’u rhent llawn.

Mae Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn (TTD) yn arian ychwanegol ar ben eich buddion eraill ar gyfer costau tai. Mae ffurflen gais bellach ar-lein yn www.caerdydd.gov.uk/ttd.

Mae swm cyfyngedig o arian ar gael, ac mae ar gael i’r rhai mwyaf anghenus.

Os oes angen help arnoch i wneud cais, ffoniwch y Llinell Gyngor ar 029 2087 1071.