Free school meals - photo of a cooked dinner

Er bod ysgolion ar gau, gall teuluoedd â phlant sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim gael help mewn modd gwahanol. Erbyn hyn, gallwch gael taliadau am fwyd sy’n cael ei wneud yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc, drwy Parent Pay. Byddwch yn derbyn llythyr sy’n dweud wrthych sut i gofrestru.

Mae’r cynllun talebau yn dal i redeg ar gyfer ysgolion a theuluoedd sy’n methu â chael gafael ar Parent Pay ac os ydych yn hunan-ynysu gall y tîm Addysg drefnu i barsel bwyd gael ei ddanfon at eich drws ar gyfer eich plentyn/plant.

Ceisiadau Newydd

Rydym yn dal i dderbyn ceisiadau newydd am Brydau Ysgol Am Ddim ac efallai y byddwch yn gymwys os ydych yn derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau isod:

  • Cymhorthdal Incwm,
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Gysylltiedig ag Incwm,
  • Lwfans Ceisio Gwaith Seiliedig ar Incwm,
  • Elfen Warant Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
  • Credyd Treth Plant, gydag incwm o £16,190 neu lai
  • Credyd Cynhwysol os yw enillion yr aelwyd yn llai na £7,400.

 

Cofiwch, os byddwch yn cael credyd treth gwaith, ni fyddwch yn gallu hawlio.

I wneud cais, anfonwch e-bost at Prydauysgolamddim@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch 02920 537 250