Mae timau budd-daliadau Cyngor Caerdydd wedi bod yn brysur yn asesu hawliadau newydd am ostyngiad yn y Dreth Gyngor. Taliad yw hwn a wneir yn uniongyrchol i’ch cyfrif treth cyngor, yn dibynnu ar incwm ac amgylchiadau eich cartref.
Os ydych yn cael trafferth i dalu eich treth gyngor, gallwch wneud cais ar-lein neu gallwch ffonio’r Llinell Gynghori i gael rhagor o wybodaeth.
Yma yn y tîm Cyngor ar Arian gallwn hefyd helpu os ydych yn mynd i ddyled gyda’ch cyfrif Treth Gyngor. Os oes gennych ôl-ddyledion treth gyngor, neu os ydych wedi cael eich gwysio oherwydd biliau sydd heb eu talu, byddwn yn eich helpu i bennu cyllideb a faint y gallwch fforddio ei ad-dalu bob mis.
Ffoniwch y Llinell Gynghori am ragor o wybodaeth 02920 871 071