Defnyddir cyfrifon Cerdyn Swyddfa’r Post yn aml ar gyfer budd-daliadau a thaliadau pensiwn os na allwch ddefnyddio cyfrif banc arall.
O 11 Mai 2020 fyddwch chi ddim yn gallu agor cyfrif newydd mwyach a bydd angen i chi fod â chyfrif banc neu gymdeithas adeiladu i dderbyn eich taliadau.
Yma yn Cyngor ar Arian gallwn eich helpu i ddod o hyd i gyfrif banc addas, hyd yn oed os ydych wedi cael problemau gyda hanes credyd yn y gorffennol. Os cewch drafferth dod o hyd i’r prawf adnabod sydd ei angen i agor cyfrif, gallwn eich helpu gyda hyn hefyd.
Rhowch alwad i ni ar y Llinell Gynghori 02920 871 071.
Nodwch nad yw hyn yn effeithio ar bobl sydd â chyfrif Swyddfa Bost ar hyn o bryd.